Rhaglen gwella iechyd deintyddol y blynyddoedd cynnar yn adfer i lefelau cyn y pandemig

Mae’r adroddiadau blynyddol diweddaraf ar y rhaglenni iechyd cyhoeddus deintyddol a ddarperir gan Wasanaethau Deintyddol Cymunedol y GIG yng Nghymru wedi dangos bod y rhaglenni wedi gwella’n dda o’r saib yn ystod y pandemig.

Mae Cynllun Gwên, y rhaglen iechyd y geg i atal pydredd dannedd (a elwir hefyd yn dyllau) mewn plant, a ddarperir gan staff o’r saith bwrdd iechyd lleol drwy feithrinfeydd ac ysgolion cynradd, wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran ei fesurau darparu allweddol ac yn y rhan fwyaf  mae wedi dychwelyd i tua’r lefelau a gofnodwyd yn adroddiad 2018-2019. 

Ym mlwyddyn academaidd 2023-24, cyflwynodd Cynllun Gwên sesiynau defnyddio farnais fflworid i fwy o leoliadau nag erioed o’r blaen, gyda 621 o ysgolion a meithrinfeydd yn cymryd rhan yn y rhaglen.   

Yn ogystal, dosbarthwyd 35,544 o becynnau brwsio dannedd gartref gan ymwelwyr iechyd i deuluoedd er mwyn helpu i ddatblygu arferion iechyd y geg cadarnhaol ar y cam cynharaf, ynghyd â 16,562 o gwpanau hyfforddi. 

Rhoddwyd hyfforddiant addysg iechyd y geg i 832 o weithwyr proffesiynol yn y meysydd gofal plant, iechyd a gofal cymdeithasol, a 640 o ymwelwyr iechyd a myfyrwyr. 

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig