RABI yn ehangu cymorth i ffermwyr gyda menter lesiant newydd

Gyda 2020 yn cyflwyno mwy a mwy o ansicrwydd a newidiadau annisgwyl, mae pwysau ar y gymuned ffermio yn cynyddu o hyd. Fel rhan o becyn newydd o wasanaethau wedi eu dylunio i gynorthwyo pobl i ymdrin â’r heriau cymhleth hyn, mae RABI yn lansio gwasanaeth cymuned lesiant a chwnsela ar gyfer pobl ffermio ar draws Cymru a Lloegr ar 19 Hydref.

Yn erbyn cefndir o straen a gofynion parhaus, mae’r fenter ar-lein newydd hon yn gam arwyddocaol yng nghynlluniau RABI i esblygu ei wasanaethau, er mwyn bodloni anghenion newidiol pobl ffermio yn well.

“Gwyddom fod ffermwyr yn parhau i wynebu cyfnod eithriadol o anodd. Mae rheoli lles meddwl a chynnal iechyd meddwl da wedi dod i’r amlwg fel un o’r materion mwyaf arwyddocaol y mae ein sector, sydd eisoes yn adnabyddus am lefelau uwch nag arfer o straen, iselder, gorbryder a hunanladdiad, yn ei wynebu,” meddai Alicia Chivers, Prif Weithredwr RABI.

“Ein nod yw gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned ffermio y mae RABI wedi bod yn ymroddedig iddi dros y 160 o flynyddoedd diwethaf. Rydym yn credu mewn ymyrraeth gynnar ac mae cymorth un i un yn hanfodol i sicrhau iechyd meddwl da ac i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol llesiant gwael. Rydym o’r farn y gall darparu cymorth cyfrinachol, hygyrch ac am ddim ar-lein wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gynulleidfa eang.”

Mae’r fenter yn cynnwys dau safle penodol – Qwell.io/rabi i oedolion a Kooth.com/rabi sydd wedi ei deilwra ar gyfer pobl ifanc 11-17 oed. Mae’r llwyfannau diogel a chyfrinachol hyn ar-lein yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â darparwr iechyd meddwl ar-lein arbenigol. Mae’r gwefannau yn cynnwys deunydd sydd yn gyfeillgar i ffermwyr sydd yn mynd i’r afael â heriau sydd yn benodol i’r sector ffermio fel unigrwydd, gorbryder am Brexit, iechyd anifeiliaid a chlefydau cnydau a dyledion fferm.

Bydd y defnyddwyr yn gallu cael mynediad di-enw i gynnwys sydd yn benodol i ffermwyr a chynnwys mwy cyffredinol, yn ogystal ag amrywiaeth o fyrddau trafod, astudiaethau achos a gweithrediadau anfon negeseuon. Mae llawer o offer, fel dyddiadur i gofnodi ac olrhain cynnydd yn erbyn nodau personol, yn ogystal ag awgrymiadau ac erthyglau.

Yn ogystal, gall y defnyddwyr i gyd gael mynediad at gymorth cwnsela un i un gan weithwyr proffesiynol cymwys wedi eu cymeradwyo gan BACP trwy weithrediad sgwrsio.  Mae’r ymarferwyr wedi eu hyfforddi mewn mathau gwahanol o gwnsela, sy’n eu galluogi i fodloni anghenion a dewisiadau unigol.

“Ni ddylai unrhyw un gymryd iechyd meddwl yn ganiataol.  Rydym yn credu bod cynnig cymorth ymarferol trwy’r safleoedd hyn yn gam adeiladol a chadarnhaol iawn ymlaen. Mae’n ffurfio rhan allweddol o strategaeth bum mlynedd uchelgeisiol RABI fydd yn ymestyn yr hyn yr ydym yn ei gynnig i gynulleidfa ehangach. Rydym yn deall y materion y mae ffermwyr yn eu hwynebu ac yn angerddol am ddod o hyd i’r offer sydd yn gallu helpu a’u datblygu. Ein rôl yw rhoi anogaeth er mwyn i bobl allu cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, yn ddigon cynnar i wneud gwahaniaeth a’u hatal, gobeithio, rhag cyrraedd argyfwng,” dywed Alicia.

“Mae angen i ni hefyd ysgogi trafodaethau agored a gonest ar draws amaethyddiaeth er mwyn mynd i’r afael â’r pwnc cymhleth hwn. Felly, rydym hefyd yn estyn allan i randdeiliaid a sefydliadau niferus fydd, gobeithio, yn ymuno gyda ni i godi ymwybyddiaeth ehangach a phwysleisio’r negeseuon pwysig hyn.”

“Mae lansio’r gymuned lesiant ar-lein yn gam arwyddocaol tuag at gyflawni ein gweledigaeth ‘na ddylai unrhyw ffermwr fyth wynebu trallod ar eu pen eu hunain,’” dywed Alicia i gloi.

I gael mynediad at y llwyfan cwnsela ar-lein, ewch i wefan RABI: https://rabi.org.uk/

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig