Pydredd dannedd mewn plant ifanc yng Nghymru yn parhau i ostwng, ond anghydraddoldebau’n parhau

Mae canfyddiadau newydd gan Raglen Epidemioleg Deintyddol GIG Cymru yn dangos bod iechyd y geg mewn plant Blwyddyn Ysgol Un yng Nghymru yn parhau i wella, gyda llai yn profi pydredd dannedd nag yn y blynyddoedd blaenorol. 

Archwiliodd arolwg diweddaraf y Rhaglen Epidemiolegol Deintyddol, a gynhaliwyd yn ystod blwyddyn academaidd 2024 i 2025, ddannedd 8,526 o blant ledled Cymru. Cydlynwyd yr arolygiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth ag Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ac fe’i cynhaliwyd gan dimau’r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol ym mhob Bwrdd Iechyd. 

Mae’r canlyniadau’n dangos bod ychydig dros 27 y cant o blant wedi cael profiad o bydredd dannedd. Mae hwn yn ostyngiad ystadegol arwyddocaol o’i gymharu â 32.4 y cant yn 2022 i 2023 ac mae’n parhau â’r duedd hirdymor ar i lawr a welwyd er 2007 i 2008. Golyga hyn, mewn dosbarth cyfartalog o 30 o blant, fod gan wyth o blant bydredd dannedd o gymharu â 14 yn 2007/08. Fodd bynnag, pan fydd gan blant bydredd dannedd, effeithir ar nifer lluosog o ddannedd, yn ôl y canfyddiadau (3.51) 

Mae pydredd dannedd yn parhau i gael effaith wirioneddol ar fywydau beunyddiol plant. Adroddodd rhieni a gofalwyr fod bron i un o bob pedwar plentyn â phydredd dannedd wedi profi poen deintyddol yn y flwyddyn flaenorol. At ei gilydd, nododd 17.7 y cant o rieni fod iechyd y geg eu plentyn wedi cael effaith negyddol ar ansawdd ei bywyd, gan godi i bron i 39 y cant ymhlith plant â phydredd dannedd. 

Er gwaethaf gwelliannau ar lefel genedlaethol, mae anghydraddoldebau sylweddol yn parhau. Roedd dannedd y plant a oedd yn byw mewn cymunedau difreintiedig yn dal i fod yn fwy tebygol o brofi pydredd. Roedd hefyd yn fwy tebygol yr effeithid ar fwy o ddannedd y plant hyn nag ar ddannedd y rhai a oedd yn byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Nid yw’r bwlch hwn rhwng y cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig wedi newid yn sylweddol dros amser. 

Mae’r canfyddiadau’n atgyfnerthu pwysigrwydd rhaglenni atal fel y Cynllun Gwên, sy’n cefnogi brwsio dannedd dan oruchwyliaeth, rhoi farnais fflworid ac addysg iechyd y geg mewn meithrinfeydd ac ysgolion ledled Cymru. 

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig