Pobl Cymru yn cefnogi cymorth cryfach i iechyd a llesiant menywod ar ôl beichiogrwydd

Mae canfyddiadau newydd o arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos cefnogaeth gyhoeddus gref i ddarparu cymorth iechyd a llesiant i fenywod yn y flwyddyn ar ôl beichiogrwydd. 

At ei gilydd, dywedodd 78 y cant o bobl ei bod hi’n bwysig iawn bod menywod yn derbyn cymorth ar gyfer eu hiechyd a’u llesiant yn y flwyddyn gyntaf ar ôl beichiogrwydd, boed hyn yn dilyn genedigaeth, camesgoriad neu ganlyniadau eraill beichiogrwydd. 

Roedd mwy na hanner yr ymatebwyr (58 y cant) o’r farn mai’r amser gorau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gael sgwrs iechyd a llesiant gyda menywod ar ôl beichiogrwydd fyddai yn ystod apwyntiad pwrpasol a drefnwyd gan y GIG a oedd yn canolbwyntio ar iechyd a llesiant y menywod. Roedd llai o bobl yn teimlo mai’r amser gorau ar gyfer y sgyrsiau hyn fyddai yn ystod apwyntiadau sy’n canolbwyntio ar blant, fel brechiadau (21 y cant), neu yn ystod apwyntiadau y mae menywod wedi’u trefnu i siarad am fater penodol (14 y cant). 

Roedd bron i dri o bob pedwar o bobl (73 y cant) o’r farn y dylai sgyrsiau iechyd ar ôl beichiogrwydd gynnwys cymysgedd o bynciau y cynlluniwyd eu trafod ymlaen llaw a dylai fod yn lle i fenywod drafod yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.  

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig