Offer newydd am ddim yn helpu cyflogwyr i gynyddu cynhyrchiant a gwella iechyd y gweithlu
Maen nhw’n dweud bod pethau da yn dod mewn trioedd, a gall cyflogwyr yng Nghymru nawr elwa ar dri chynnyrch cyffrous newydd ac am ddim sydd wedi’u cynllunio i wella iechyd a llesiant yn y gweithle.
Mae CIW yn rhaglen genedlaethol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gyflwynir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n cefnogi cyflogwyr ledled Cymru i greu gweithleoedd iachach a hapusach.
Mae’r dystiolaeth yn dangos bod cysylltiad cryf rhwng iechyd a llesiant yn y gweithle a llwyddiant sefydliadol. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchiant gwell, cyfraddau cadw staff a recriwtio gwell, ynghyd â llai o absenoldebau oherwydd salwch a llai o drosiant staff.
Mae gwaith CIW yn canolbwyntio ar amgylcheddau a diwylliannau iach, hyrwyddo ymddygiadau sy’n gwella iechyd, a chefnogi gweithwyr sy’n absennol o’r gwaith oherwydd salwch a chyflyrau cronig. Mae llawer o gyflogwyr mwyaf Cymru, megis Admiral a Dŵr Cymru, yn gweithio gyda CIW i wella a diogelu iechyd eu gweithluoedd a chynyddu eu cynhyrchiant yn gyffredinol.
Mae cynhyrchion rhad ac am ddim newydd CIW yn cynnwys:
Offeryn Arolwg Cyflogwyr CIW. – Mae’n galluogi cyflogwyr i asesu eu dull presennol o ymdrin ag iechyd a llesiant yn y gweithle a chael adborth, awgrymiadau ar gyfer y camau nesaf a chyngor clir i gryfhau eu strategaeth llesiant yn y gweithle.
Cymorth Cynghorydd yn y Gweithle. – Mae’n galluogi cyflogwyr i gael mynediad at sesiynau cymorth rhithwir un-i-un gan Gynghorwyr yn y Gweithle CIW er mwyn iddynt gael syniadau, offer a chynlluniau syml y gallant eu rhoi ar waith ar unwaith yn eu gweithleoedd.
Rhaglen Mentora Cymheiriaid. – Mae’n helpu cyflogwyr ledled Cymru i gysylltu a rhannu profiadau o’r byd go iawn, gwybodaeth ymarferol a dulliau sydd wedi’u profi o ymdrin ag iechyd a llesiant yn y gweithle.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.