Monitro Gweithredol yn darparu cymorth iechyd meddwl rhad ac am ddim

Gwasanaeth hunangymorth dan arweiniad yw Monitro Gweithredol Mind Cymru, sy’n cynnig sesiynau rhad ac am ddim am gyfnod o chwe wythnos i unrhyw un dros 18 oed. Yn seiliedig ar egwyddorion therapi gwybyddol ymddygiadol, mae’r gwasanaeth wedi’i gynllunio i helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ysgafn a chymedrol, fel gorbryder, hwyliau isel, straen a mwy. Mae ganddo sylfaen dystiolaeth gadarn ac mae wedi helpu dros 14,000 o bobl yng Nghymru.

“Y cymorth rwy’n ei gael gan Monitro Gweithredol yw’r cymorth gorau i mi ei gael erioed; mae’r ffaith fy mod yn dal i’w ddefnyddio 18 mis yn ddiweddarach yn brawf o hynny.” Cleient Gwasanaeth Monitro Gweithredol

Mae’r gwasanaeth ar gael ar-lein yn mind.org.uk/AMWales, neu drwy gysylltu â’ch sefydliad Mind lleol. Gall unrhyw un sydd dros 18 oed naill ai gyfeirio eu hunain, neu gael eu hatgyfeirio gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, ac mae’r gwasanaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

  • Byddai 99% o’n cleientiaid yn argymell y gwasanaeth i ffrindiau a theulu
  • Ar gyfartaledd, rhoddodd y cleientiaid sgôr o 5/10 i’r gwasanaeth

Bydd ymarferydd Monitro Gweithredol hyfforddedig yn darparu asesiad ac yn trefnu amser a dyddiadau ar gyfer y sesiynau parhaus. Bydd y cleient yn cael hyd at chwe sesiwn un-i-un gyda’i ymarferydd. Boed hynny drwy sesiynau wyneb yn wyneb neu ar-lein, bydd yr ymarferydd yn gweithio drwy un o’r saith llwybr, sy’n cynnwys adnoddau a strategaethau defnyddiol mewn llyfrau gwaith ac adnoddau hunanreoli.

Mewn arolwg diweddar:

  • Roedd 85% o’n cleientiaid yn teimlo bod eu hiselder wedi gwella a;
  • Roedd 85% yn dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwella (WEMWBS).

Ymyriad Haen 1 yw Monitro Gweithredol, ac mae’n cyd-fynd yn dda â gweledigaeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl aml-haen integredig. Mae hefyd yn cyd-fynd â rhan 1 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) a chanllawiau clinigol NICE ar gyfer problemau iechyd meddwl ysgafn a chymedrol. Fe’i datblygwyd fel gwasanaeth iechyd meddwl gofal sylfaenol ar y cyd â phractis meddygon teulu.

“Rwy’n credu y dylai pawb gael mynediad at wasanaeth fel hwn – gan fod pobl yn gorfod aros mor hir am gymorth iechyd meddwl, byddai’n wych pe bai pawb yn cael ymarferydd hyfforddedig i siarad ag ef am unrhyw broblemau iechyd meddwl sydd ganddynt.” Meddyg Teulu

Gall Monitro Gweithredol gefnogi eich gwasanaethau iechyd meddwl drwy helpu’r bobl ganlynol:

  • Pobl sydd ag anghenion llai difrifol
  • Pobl sy’n gorfod aros yn hir am gwnsela neu gefnogaeth Haen 1 arall
  • Pobl sy’n barod i symud i lawr o wasanaethau lefel uwch
  • Pobl fyddai’n elwa o gael cymorth yn y gymuned, ac o gael eu rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl eraill o fewn sefydliadau Mind lleol.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig