Mewnwelediadau newydd yn dangos potensial data ar draws systemau iechyd a gofal i lywio cymorth ar gyfer gofalwyr di-dâl yng Nghymru

Mae gofalwyr di-dâl yn dioddef iechyd corfforol a meddyliol gwaeth na’r rhai nad ydynt yn ofalwyr ac yn defnyddio gwasanaethau gofal iechyd yn fwy na gweddill y boblogaeth, felly mae’n hanfodol bod gofalwyr di-dâl yn gallu cael mynediad at gymorth a chyngor, ar gyfer eu hiechyd a’u llesiant eu hunain a’r rhai y maent yn gofalu amdanynt. 

Mae adroddiad newydd gan Labordy Data Rhwydweithiol Cymru (NDL Cymru) – partneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Phrifysgol Abertawe – yn dangos bod defnyddio data o ffynonellau lluosog gan gynnwys meddygon teulu ac awdurdodau lleol, yn golygu bod gan asiantaethau ddarlun mwy cyflawn o nifer y gofalwyr di-dâl ledled Cymru.   

Mae’r adroddiad yn dangos bod cyswllt data yn rhoi mewnwelediadau newydd i’r boblogaeth o ofalwyr di-dâl ar lefel awdurdod lleol yng Nghymru, a bod ganddo’r potensial i helpu i ddeall a chynorthwyo anghenion gofalwyr di-dâl yn well. 

Mwy o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig