Mae siarad am brofiadau plentyndod gydag ymwelydd iechyd yn cyfoethogi perthnasoedd ac yn gwella iechyd y teulu cyfan

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu pan fydd ymwelwyr iechyd yn holi am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) y sawl sy’n rhoi gofal fel rhan o’u hymweliadau rheolaidd, ceir cyfres o fanteision cadarnhaol i bawb.

Mae’r rhain yn cynnwys cefnogi iechyd meddyliol a chorfforol y sawl sy’n rhoi gofal, a datblygu perthynas wedi’i chyfoethogi rhwng yr ymwelydd iechyd a’r sawl sy’n rhoi gofal sy’n golygu y bydd y sawl sy’n rhoi gofal yn fwy tebygol o deimlo’n gyfforddus yn trafod materion eraill yn y dyfodol.

Dyma ganfyddiadau allweddol yr astudiaeth:

Er gwaethaf pryderon cychwynnol ymwelwyr iechyd ynghylch ymateb negyddol posibl, cafodd y cynnig o ymholiad ACE dderbyniad da iawn, gyda 9 o bob 10 o’r rhai sy’n rhoi gofal yn cytuno i gymryd rhan yn y cynllun peilot, ar draws y tri bwrdd iechyd

Dywedodd dros 40% o’r rhai sy’n rhoi gofal sydd ag unrhyw ACE mai’r cynllun peilot ymholiadau ACE oedd y tro cyntaf iddynt ddweud wrth weithiwr proffesiynol neu wasanaeth am y profiadau hyn, gyda’r datgeliad cyntaf yn fwyaf cyffredin ymhlith dynion sy’n rhoi gofal (55.1% o ddynion ag ACE).

Roedd 4 o bob 5 o’r rhai sy’n rhoi gofal a roddodd adborth yn cytuno bod eu Hymwelydd Iechyd wedi dod i’w hadnabod yn well drwy holi am eu profiadau yn ystod plentyndod ac awgrymodd 85% fod yr ymyriad wedi eu gwneud yn fwy tebygol o drafod materion eraill gyda’u Hymwelydd Iechyd yn y dyfodol. Felly roedd ansawdd eu perthnasoedd a’r gwasanaeth a gawsant wedi gwella.

Roedd y rhai sy’n rhoi gofal a gafodd ymholiad ACE yn llawer llai tebygol o nodi eu bod yn profi straen rhieni (chwe mis ôl-enedigol), o gymharu â’r rhai nad oeddent wedi cymryd rhan mewn ymholiad ACE.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig