Cymru sy’n Wybodus o Drawma: Ymagwedd Gymdeithasol at Ddeall, Atal a Chefnogi Effeithiau Trawma ac Adfyd

Mae Canolfan Gymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a Straen Trawmatig Cymru wedi cydweithio ar gyd-gynhyrchu Fframwaith Arfer Trawma Cenedlaethol i Gymru sy’n cwmpasu pob grŵp oedran a phob math o adfyd a digwyddiadau trawmatig. Nod y fframwaith yw helpu pobl, sefydliadau a systemau i atal adfyd a thrawma a’u heffeithiau negyddol cysylltiedig. Bydd yn hwyluso datblygiad dull systemau cyfan o gefnogi anghenion pobl sydd wedi profi adfyd a thrawma ac yn ceisio dod â chysondeb a chydlyniad i gefnogi’r ymdrech honno a sicrhau ei bod yn diwallu anghenion y rhai yr effeithir arnynt gan drawma. Mae hyn yn ymestyn o’r angen am ymatebion empathig, tosturiol ar draws holl gymdeithas Cymru ac ymyriadau mwy acíwt ac arbenigol y gall fod eu hangen i gefnogi’r rhai sydd ag anghenion clinigol yn dilyn profiadau o drawma. Mae’r Fframwaith yn darparu diffiniadau cytûn a chysondeb dealltwriaeth o’r hyn a olygir gan y gwahanol lefelau o ymarfer wrth atal adfyd a thrawma a chefnogi pobl y mae’n effeithio arnynt.

Datblygwyd y ddogfen hon mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru.

Sut i ymateb
Mae’r fframwaith hwn bellach yn agored i ymgynghoriad cyhoeddus a bydd yn parhau fel hyn tan 17 Mehefin 2022.  I gyflwyno ymateb, lawrlwythwch y ffurflen ymateb ac e-bostiwch y fersiwn wedi’i chwblhau i [email protected]

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig