Mae digwyddiad sy’n dathlu arfer da wrth fwydo babanod yn galw am ddull system gyfan yng Nghymru

Gwnaeth Arweinydd Cenedlaethol Cymru ar gyfer Bwydo ar y Fron ddod â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd, gan gynnwys y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, i rannu enghreifftiau o arfer da a hyrwyddo dull system gyfan o fwydo babanod. Gall annog arfer gorau wrth fwydo babanod helpu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant yng Nghymru, ac amlygodd y digwyddiad fod rôl i lawer o wasanaethau iechyd a lleoliadau i annog rhieni a’r rhai sy’n rhoi gofal i wneud dewisiadau gwybodus.

Daeth y digwyddiad “Bright Spots” ag aelodau o Rwydwaith Bwydo Babanod Cymru a thimau iechyd cyhoeddus lleol at ei gilydd i ddathlu arloesedd ac arfer da wrth fwydo babanod, gyda siaradwyr o amrywiaeth o sefydliadau’n cyflwyno.

Cyfeiriodd y digwyddiad at y weledigaeth strategol a nodir yn y Cynllun Gweithredu 5 Mlynedd Cymru Gyfan ar Fwydo ar y Fron. Mae ymchwilwyr iechyd cyhoeddus wedi amlygu bod bwydo ar y fron yn bwysig i iechyd a datblygiad babanod ac mae’n ddull hygyrch a chosteffeithiol o atal amrywiaeth o glefydau heintus a chlefydau anhrosglwyddadwy, fel gordewdra ymhlith plant a diabetes math 2. Mae cynyddu cyfraddau bwydo ar y fron hefyd yn cyfrannu at strategaeth Pwysau Iach, Cymru Iach Llywodraeth Cymru.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig