Mae deall synergedd presgripsiynu cymdeithasol yn allweddol i wella iechyd a llesiant i bawb

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn tynnu sylw at y gwahaniaethau a’r synergedd rhwng gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol, gweithgareddau llesiant ac asedau cymunedol; a phresgripsiynu cymdeithasol.

Mae presgripsiynu cymdeithasol, ymyriad anghlinigol, a ddiffinnir yng Nghymru fel ‘cysylltu dinasyddion â chymorth cymunedol i reoli eu hiechyd a’u llesiant yn well’ wedi cael cymorth a chydnabyddiaeth, fel dull pwysig o wella iechyd a llesiant i bawb.

Mae’r model presgripsiynu cymdeithasol presennol yng Nghymru yn gyfannol, yn canolbwyntio ar y person ac yn integreiddio â gwasanaethau statudol ar draws sectorau. Mae’r ‘Model Rhyngwyneb Presgripsiynu Cymdeithasol’ yn adlewyrchu’r ffyrdd nodedig y mae pobl yn ymgysylltu â’r gwasanaethau a’r gweithgareddau hyn, ond mae’n cydnabod bod pwyntiau cyfarfod clir wrth edrych arnynt gyda’i gilydd. Mae’r rhyngwynebau canlynol wedi’u trafod:

  • Presgripsiynu Cymdeithasol gyda Gweithgareddau Llesiant ac Asedau Cymunedol
  • Presgripsiynu Cymdeithasol gyda Gwasanaethau Iechyd Corfforol a Meddyliol
  • Presgripsiynu cymdeithasol gyda Gwasanaethau Iechyd Corfforol a Meddyliol a Gweithgareddau Llesiant ac Asedau Cymunedol

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig