Mae cyfran y bobl sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn aml i reoli eu hiechyd bron â dyblu
Mae cyfran y bobl yng Nghymru a ddefnyddiodd y rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol i reoli eu hiechyd bron â dyblu o 25 y cant yn 2019/20 i 46 y cant yn 2020/21, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ymhlith y rhai sydd â mynediad at y rhyngrwyd, pobl iau, a’r rhai â chyflyrau meddygol hirdymor, oedd fwyaf tebygol o fod yn ddefnyddwyr mynych technoleg ar gyfer iechyd. Mae mwy na hanner (53 y cant) hefyd am wneud mwy o ddefnydd o’r rhyngrwyd i reoli eu hiechyd yn y dyfodol – yn bennaf ymhlith y grwpiau oedran 30-54 oed.
Gofynnodd yr arolwg hwn sy’n gynrychiadol yn genedlaethol i bobl yng Nghymru yn ystod gaeaf 2021-22 am eu mynediad at y rhyngrwyd a’u defnydd o dechnoleg i wneud y gweithgareddau canlynol:
- Olrhain ymddygiad iach – fel cyfrifwyr camau, dilynyddion deiet neu gofnodi symptomau iechyd
- Dod o hyd i wybodaeth am iechyd – er enghraifft am symptomau, cyflyrau iechyd a gwasanaethau iechyd
- Gofyn am apwyntiad iechyd neu bresgripsiwn
- Cael gofal clinigol fel apwyntiadau gan feddyg teulu
- Gweithgarwch Covid-19 – fel olrhain symptomau, trefnu brechiad, neu gydymffurfio â gofynion Profi, Olrhain, Diogelu.
Ar y cyfan, parhaodd cyfran y bobl heb fynediad at y rhyngrwyd gartref i ostwng, i chwech y cant o’r boblogaeth yng Nghymru yn 2020/21. Nid oedd tystiolaeth bod hyn o ganlyniad i’r pandemig, gyda llai nag un y cant yn dweud eu bod wedi cael mynediad newydd at y rhyngrwyd dros y cyfnod hwn. Mae allgáu digidol pwysig yn parhau, gyda chyfran uwch o’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn llai tebygol o fod ar-lein (wyth y cant o gymharu â dau y cant yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig).
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.