Lleisiau plant a theuluoedd mewn tlodi yn dangos pwysigrwydd creu dyfodol iachach ar gyfer tai yng Nghymru
Mae plant a theuluoedd mewn tlodi yng Nghymru yn parhau i fyw mewn cartrefi nad ydynt yn rhai iach i fyw ynddynt ac mae’n cael effaith negyddol ar eu hiechyd, eu datblygiad, eu haddysg, eu llesiant a’u cyfleoedd bywyd. Drwy ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid a thrwy gael ei lywio gan brofiad bywyd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi amlinellu pedwar o flaenoriaethau galluogi ar gyfer llunio dyfodol tai iachach i Gymru.
Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru – Lle i ffynnu: creu cartrefi iachach i blant a theuluoedd mewn tlodi ledled Cymru – yn tynnu sylw at brofiad bywyd pobl y mae eu cartrefi’n effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant.
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y gwaith ymgysylltu â theuluoedd, ynghyd â rhanddeiliaid yn y sector, wedi helpu i nodi a mireinio pedwar maes gweithredu i helpu i lunio dyfodol iachach ar gyfer tai yng Nghymru. Y meysydd hyn yw:
- Ymgorffori iechyd a llesiant mewn Strategaeth Tai ac Adfywio i Gymru
- Cynnwys y rhai y mae polisi tai yn effeithio arnynt yn ei ddatblygiad, yn enwedig teuluoedd sy’n byw mewn tlodi
- Gweithio ar draws sectorau a rhannu data i ddarparu cefnogaeth gydlynol a chanolbwyntio ar atal
- Dysgu o gymhwyso Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIAs)
Mae tai yn un o’r blociau adeiladu sylfaenol ar gyfer bywyd iach, ac mae pob agwedd ar ein cartrefi a lle rydym yn byw yn effeithio ar ein hiechyd a’n llesiant corfforol a meddyliol. Pan fo plant a theuluoedd yn byw mewn cartrefi sy’n oer, yn llaith, ac yn orlawn, er enghraifft, neu sy’n rhoi straen ar gyllid teuluoedd, mae’n achosi niwed i iechyd fel problemau anadlu, straen, a rhagor o afiechydon.
O fewn y meysydd blaenoriaeth uchod, nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddatrysiadau ymarferol y gall llunwyr polisi, rhanddeiliaid a phartneriaid ar draws sectorau eu rhoi ar waith i wella tai i blant a theuluoedd mewn tlodi.
Mae’r rhain yn cynnwys cynyddu argaeledd cartrefi iach a fforddiadwy, yn enwedig tai cymdeithasol, codi safonau tai rhent preifat a blaenoriaethu ymyrraeth gynnar ac atal yn y sector trwy weithio gyda theuluoedd a chymunedau i ddylunio gwasanaethau integredig sy’n seiliedig ar leoedd.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.