Lansio panel ‘Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus’
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn recriwtio ar gyfer panel ymgysylltu â’r cyhoedd i roi’r cyfle i bobl yng Nghymru i ddweud eu dweud am faterion sy’n effeithio ar iechyd a llesiant eu hunain a’u cymunedau.
Bydd y safbwyntiau sy’n cael eu casglu o arolygon misol yn cael eu defnyddio i lunio polisïau ac arferion iechyd cyhoeddus ledled Cymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu DJS Research Ltd., asiantaeth ymchwil annibynnol i adeiladu panel o drigolion 16 oed a throsodd sy’n byw yng Nghymru a fydd yn rhannu eu barn yn rheolaidd er mwyn helpu i lywio Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda’u penderfyniadau.
Bydd y Panel yn cynnwys tua 2,500 o drigolion o bob rhan o Gymru. Bydd y grŵp o drigolion a ddewisir yn adlewyrchu natur amrywiol poblogaeth Cymru ac yn cwmpasu trawstoriad o drigolion, er enghraifft, o wahanol grwpiau oedran, rhywedd, ethnigrwydd a chyflogaeth, a bydd yr holl ohebiaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.