Cyflwyno profion COVID cyflym rheolaidd i staff iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen yng Nghymru
Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi y bydd staff iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen yng Nghymru sy’n asymptomatig yn cael eu profi yn rheolaidd. Bydd y profion yn cael eu cyflwyno’r mis hwn.
Bydd dyfeisiau ar gyfer cynnal prawf llif unffordd yn cael eu darparu i bob aelod o staff iechyd a gofal cymdeithasol, er mwyn iddynt gael eu profi ddwywaith yr wythnos. Bydd y rhaglen profi newydd ar gael ar gyfer:
- staff clinigol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd) a’r rheini sy’n gweithio mewn grwpiau risg uchel fel staff haematoleg sy’n gweithio gyda chleifion sydd wedi cael trawsblaniad neu sy’n disgwyl triniaeth
- staff anghlinigol gan gynnwys porthorion, staff glanhau, staff arlwyo a gwirfoddolwyr
- gweithwyr gofal cymdeithasol, yn cynnwys gofal cartref, archwilwyr cartrefi gofal a lleoliadau gofal eraill.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.