Cyflogwyr yng Nghymru yn gosod safon aur ar gyfer iechyd a llesiant yn y gweithle
Mae adroddiad newydd gan dîm Cymru Iach ar Waith yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at y ffyrdd niferus y mae cyflogwyr yng Nghymru wedi camu i’r adwy ac yn arwain y ffordd ar flaenoriaethu iechyd a llesiant meddwl a chorfforol eu gweithwyr, yn ystod ac yn dilyn pandemig y Coronafeirws.
Mae ‘Sut y gwnaeth cyflogwyr yng Nghymru ymateb i bandemig Covid-19: Crynodeb o’r dulliau o ymdrin â llesiant staff gan gwmnïau yng Nghymru’ yn canolbwyntio ar rai o’r gweithgareddau a’r dulliau arloesol a gymerwyd gan sefydliadau a chyflogwyr. Mae’r themâu allweddol yn cynnwys:
- Annog a hybu iechyd meddwl a llesiant
- Hyrwyddo mentrau llesiant corfforol
- Cyfathrebu a hyfforddiant staff
- Ymgysylltu â staff a’u cydnabod a’u cefnogi
- Cyfathrebu digidol
- Diogelu’r gymuned
- Gwneud newidiadau cynaliadwy
- Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.