Mae’r prosiect yn helpu oedolion hŷn i ddechrau cerdded yn eu cymunedau, i wneud cysylltiadau newydd a lleisio’r angen am newidiadau yn eu hamgylchedd cerdded lleol.
Er gwaetha’r cyfyngiadau y mae’r pandemig wedi eu hachosi, gall Cyfeillion Cerdded Cymru helpu pobl dros 50 oed i feithrin hyder a chryfder i ddechrau cerdded a dod yn fwy egnïol yn raddol.