Cronfa £1.5 miliwn i ddathlu Cymru yng Nghwpan y Byd
Bydd y gronfa yn cefnogi amrywiol sefydliadau o ddiwylliant, y celfyddydau, chwaraeon a’r cyfryngau ar gyfer gweithgareddau i ddathlu Cymru yng Nghwpan y Byd. Gallai hyn gynnwys gweithgaredd i hyrwyddo Cymru yn fyd-eang, darparu digwyddiadau i gymryd rhan mewn chwaraeon, cysylltu â’r Cymry ar wasgar, neu helpu cefnogwyr i ddathlu’r gemau yma yng Nghymru a ledled y byd.
Mae Cronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd yn un rhan o’r gweithgareddau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cynllunio i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd sy’n deillio o gyfranogiad cyffrous Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA yn Qatar yn ddiweddarach eleni.
Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r twrnamaint byd-eang i hyrwyddo Cymru i’r byd, gan amlygu gwerthoedd ein gwlad a sicrhau gwaddol gadarnhaol a pharhaol i Gymru a phêl-droed Cymru.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.