Annog brechu cyn y bydd y tymor ffliw ar ei anterth

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn annog y rhai sy’n gymwys i gael eu brechlyn ffliw cyn i’r gwaethaf o dymor ffliw’r gaeaf ddechrau. Er mwyn sicrhau’r amddiffyniad mwyaf posibl yn erbyn ffliw, mae angen i bobl gael eu brechu ychydig wythnosau cyn i’r tymor ffliw ddechrau – mae fel arfer yn dechrau tua dechrau mis Rhagfyr. Bydd brechu yn helpu i’w hamddiffyn rhag mynd yn ddifrifol wael cyn y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd pan ddisgwylir i’r achosion o ffliw gyrraedd eu hanterth.

Mae dros hanner miliwn o bobl eisoes wedi’u brechu rhag ffliw yng Nghymru hyd yma eleni. Dylai pobl sy’n gymwys ddod ymlaen i gael eu brechlynnau gaeaf cyn gynted â phosibl. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gael y brechlynnau ar gael gan eich bwrdd iechyd lleol.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig