Annog brechu, gan fod disgwyl i’r ffliw fod yn fater iechyd cyhoeddus mawr yng Nghymru y gaeaf hwn

Mae arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus yn disgwyl tymor ffliw sylweddol y gaeaf hwn am y tro cyntaf ers y pandemig. Mae pryderon y gall ddechrau’n gynharach eleni ac effeithio ar fwy o bobl. O ganlyniad, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach yn annog unrhyw un sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim i fanteisio ar y cynnig, er mwyn amddiffyn eu hunain ac eraill rhag salwch difrifol y gaeaf hwn.

Yn ogystal, mae rhaglen pigiad atgyfnerthu’r hydref Covid-19 bellach yn fyw ac mae llawer o bobl gan gynnwys pawb dros 50 oed, a’r rhai sy’n wynebu risg o salwch difrifol ymhlith y rhai sy’n cael cynnig pigiad atgyfnerthu Covid-19 i leihau eu siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda Covid-19.

Mae achosion o ffliw eisoes yn cael eu canfod yng Nghymru. Mae gwyddonwyr iechyd cyhoeddus yn dweud y gallai’r tymor ffliw fod mor ddifrifol â’r achosion o ffliw yn 2017/18, pan gafodd 16.5 mil o bobl yng Nghymru ddiagnosis o ffliw gan eu meddyg teulu, ac roedd yn rhaid i 2,500 o bobl fynd i’r ysbyty. Roedd hefyd lefel uchel o farwolaethau ychwanegol tymhorol y flwyddyn honno – y gwaethaf ers tua 20 mlynedd.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig