Atal hunanladdiad a hunan-niwed
Atal hunanladdiad a hunan-niwed
Mae hunanladdiad yn farwolaeth sydd yn digwydd yn sgîl gweithred fwriadol hunanachosedig. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn roi adroddiad blynyddol ar farwolaethau sydd wedi eu cofrestru fel hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr ac mae’r tueddiadau yn awgrymu bod rhwng 300-350 o farwolaethau trwy hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru. Mae ymddygiad hunanladdol yn amrywio o feddwl am hunanladdiad, cynllunio hunanladdiad, ceisio cyflawni hunanladdiad i gyflawni hunanladdiad. Mae hunanladdiad fel arfer yn ymateb i gyfres gymhleth o ffactorau sydd yn bersonol ac yn gysylltiedig â dylanwadau cymdeithasol a chymunedol ehangach. Nid oes felly un rheswm unigol pam y gallai rhywun geisio cymryd eu bywyd eu hunain. Y ffordd orau o ddeall hunanladdiad yw trwy edrych ar bob unigolyn, eu bywyd a’u hamgylchiadau. Mae’n bwysig cofio, fodd bynnag, y gellir osgoi hunanladdiad a hunan-niwed i raddau helaeth, os eir i’r afael â ffactorau risg ar lefel yr unigolyn, grŵp neu’r boblogaeth yn effeithiol.
Darllen mwyAdnoddau Ein prif ddewisiadau
Math o ffeil |
Teitl |
Cynhyrchwyd gan |
---|---|---|
|
Cynllun Strategol Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Gogledd Cymru 2018-21 |
Grŵp Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Gogledd Cymru |
|
Strategaeth atal hunanladdiadau a hunan-niweidio 2015 i 2022 |
Llywodraeth Cymru |
|
Bwletinau Ystadegol Hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr – Ar gael yn Saesneg yn unig |
Office for National Statistics |
|
Atal Hunanladdiad – Ar gael yn Saesneg yn unig |
Sefydliad Iechyd y Byd |
|
Hunanladdiad a Hunan-niwed – Ar gael yn Saesneg yn unig |
Mental Health Foundation |
Chwilio am adnodd penodol?
Os ydych chi'n chwilio am adnoddau pwnc-benodol, cliciwch ar adnoddau chwilio lle byddwch chi'n gallu hidlo a chwilio yn ôl maes pwnc.
Cyfrannu at ein pynciau
Oes gennych chi adnodd rydych chi am ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith trwy ychwanegu at ein pynciau.