Mae Communities4Change (C4C) Cymru yn ymagwedd wedi’i llywio gan dystiolaeth a’i chyfyngu gan amser sy’n dwyn ynghyd unigolion o nifer o wahanol asiantaethau â’r nod cyffredin o alluogi a chyflymu newid i wella iechyd a thegwch iechyd. Gweler y ddogfen Glasbrint am ragor o wybodaeth am yr ymagwedd.
Treialwyd yr ymagwedd gyda Phartneriaeth Tai Iach Cwm Taf Morgannwg, a sefydlwyd i wella iechyda lles pobl yn Awdurdodau Lleol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr trwy wella ansawdd tai a faint o gymorth a roddir i bobl ddigartref. Nod y bartneriaeth ar gyfer y prosiect peilot oedd datblygu dull o rannu, dehongli a defnyddio data ar gyfer gweithredu ar draws partneriaid mewn perthynas â thai ac iechyd.
Cynhaliwyd gwerthusiad o broses ac effaith y prosiect peilot gan y tîm Penderfynyddion Ehangach Iechyd gyda chymorth gan yr Is-adran Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r dull gwerthuso, y canlyniadau a’r hyn a ddysgwyd o’r prosiect peilot i’w gweld yn yr adroddiad a’r atodiad ychwanegol isod.
Communities4Change Cymru Glasbrint
Communities4Change Cymru: Adroddiad gwerthuso
Communities4Change Cymru: Adroddiad gwerthuso – Atodiadau ychwanegol