Ni ellir trosglwyddo Clefydau Anhrosglwyddadwy (NCD) o un person i’r llall. Maent yn gronig o ran natur ac yn datblygu’n araf yn gyffredinol. Y pedwar prif fath o NCD yw clefydau cardiofasgwlaidd (e.e. trawiad ar y galon a strôc), canserau, clefydau anadlol cronig (e.e. clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac asthma) a diabetes. Yng Nghymru mae baich clefydau yn sgîl NCD ymysg y rheiny rhwng 30 a 70 oed wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf o 385 o bobl fesul 100,000 o’r boblogaeth yn 2005-07 i 319 o bobl fesul 100,000 yn 2013-15 (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2018). Mae ymddygiad niweidiol yn ymwneud ag iechyd, yn cynnwys defnyddio tybaco, deiet afiach, gormod o alcohol ac anweithgarwch corfforol, i gyd yn cynyddu’r risg o ddatblygu a marw o NCD.
Darllen mwyAdnoddau Ein prif ddewisiadau
Math o ffeil |
Teitl |
Cynhyrchwyd gan |
---|---|---|
|
Cynllun gweithredu byd-eang ar gyfer atal a rheoli clefydau anhrosglwyddadwy 2013-2020 – Ar gael yn Saesneg yn unig |
Sefydliad Iechyd y Byd |
|
Clefydau anhrosglwyddadwy – Ar gael yn Saesneg yn unig |
Sefydliad Iechyd y Byd |
|
Proffiliau gwledydd clefydau anhrosglwyddadwy 2018 – Ar gael yn Saesneg yn unig |
Sefydliad Iechyd y Byd |
|
Ysgogi gweithredu i atal canser a chlefydau anhrosglwyddadwy eraill – Ar gael yn Saesneg yn unig |
World Cancer Research Fund International |
|
Mynd i’r afael â chlefydau anhrosglwyddadwy – Ar gael yn Saesneg yn unig |
Sefydliad Iechyd y Byd |
Chwilio am adnodd penodol?
Os ydych chi'n chwilio am adnoddau pwnc-benodol, cliciwch ar adnoddau chwilio lle byddwch chi'n gallu hidlo a chwilio yn ôl maes pwnc.
Cyfrannu at ein pynciau
Oes gennych chi adnodd rydych chi am ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith trwy ychwanegu at ein pynciau.