Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
Dydd Iau 8 Mehefin 2023
With Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021 a’i nod yw darparu canlyniadau gwell i’r rhai sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol mewn meysydd fel iechyd, disgwyliad oes a chyrhaeddiad addysgol. Er bod cyrff cyhoeddus wedi croesawu’r Ddyletswydd, mae gwaith ymchwil gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn awgrymu nad yw wedi cael ei gweithredu’n llawn a bod angen mwy o gymorth. Mae’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn gyfle i wneud gwahaniaeth i iechyd a lles pobl sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol a hyrwyddo cydraddoldeb.
Roedd y weminar hon yn archwilio gweithredu’r Ddyletswydd yn ymarferol ac yn rhoi arweiniad ychwanegol ar arweinyddiaeth systemau, defnyddio data’n effeithiol, ymgysylltu’n ystyrlon a gwybod sut mae sefydliadau wedi gwneud gwahaniaeth. Esboniodd y weminar sut mae anghydraddoldebau o ran canlyniad wedi’u cysylltu ag anfantais economaidd-gymdeithasol, gyda phwyslais cryf ar iechyd.
Deilliannau Dysgu:
Siaradwyr:
Chair – Jo Peden, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Lewis Brace – Swyddog Ymchwil Polisi Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Caroline McDonnell – Uwch Ymarferwr Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Lee Parry-Williams – Uwch Ymarferwr Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Helen Flynn – Pennaeth Polisi, Ymchwil ac Ymgyrchoedd, Just Fair
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'