20 Tach
Online

Fforwm Iechyd y Cyhoedd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

20 Tach

Dyddiad + Amser

20 Tachwedd 2024

10:00 YB - 12:00 YP

Math

Ar-lein

Math

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Bydd y Fforwm Iechyd Rhyngwladol yn hyrwyddo profiadau cydweithwyr ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn rhannu’r hyn a ddysgwyd o gymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymchwil iechyd rhyngwladol ac yn darparu amser i drafod cyfleoedd ar gyfer y dyfodol i ymgysylltu â gwaith a rhwydweithiau partneriaethau rhyngwladol. Bydd y gwaith hwn yn galluogi ac yn cefnogi gweithrediad Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Canlyniadau Dysgu:
Rhannu gwybodaeth, dysg a phrofiadau gan bartneriaid a rhwydweithiau rhyngwladol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno eich gwaith neu os oes gennych bwnc trafod, cysylltwch â [email protected]

Cadeirydd – Liz Green – Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol / Cyfarwyddwr Rhaglen Asesu’r Effaith ar Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Byddwn yn clywed gan:

David Warren – Pennaeth Cysylltiadau Rhyngwladol, Llywodraeth Cymru

Meng Khaw – Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sgrinio a Gwasanaethau Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Arweinydd Pwynt Ffocws Cymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd y Cyhoedd Cenedlaethol (IANPHI)

Mariana Dyakova – Pennaeth Iechyd Rhyngwladol a Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Arbenigwr Ymgynghorol mewn Iechyd y Cyhoedd a’r Economi Llesiant, Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygiad

Giri Shankar – Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyd-Gadeirydd Grŵp Diddordeb Arbennig India Cyfadran Iechyd y Cyhoedd (FPH)

Dyddiad + Amser

20 Tachwedd 2024

10:00 YB - 12:00 YP

Math

Ar-lein

Cyfrannu at ein digwyddiadau

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig