Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
Dydd Iau 8 Chwefror 2024
With Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru a Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus y llynedd, cynhaliodd Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Iechyd Cyhoeddus Cymru cefnogir gan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ei ddigwyddiad blynyddol i ddod â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym meysydd iechyd a chynllunio gofodol, neu sydd â diddordeb yn y maes, ynghyd.
Cynulleidfa:
Bydd y digwyddiad yn berthnasol i gynllunwyr polisi a rheoli datblygu; gweithwyr iechyd proffesiynol o fyrddau iechyd lleol gan gynnwys timau iechyd y cyhoedd, timau cynllunio strategaeth a thimau ystadau/cyfleusterau cyfalaf; ac unrhyw un sydd â diddordeb yn yr agenda hon gan gynnwys cynllunwyr trafnidiaeth, swyddogion iechyd yr amgylchedd, gweithwyr proffesiynol yr amgylchedd adeiledig.
Roedd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar newidiadau yn yr agenda polisi cynllunio, cyfranogiad gwasanaethau iechyd y cyhoedd a gofal iechyd wrth ddylanwadu ar y defnydd o arian Adran 106, polisïau sy’n hwyluso amgylcheddau bwyd iach a diweddariad o Reoliadau Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) Llywodraeth Cymru. Cyflwynir prosiectau ac astudiaethau achos perthnasol.
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'