DIGWYDDIADAU BLAENOROL

Daeth y digwyddiad i ben.

Mae'r digwyddiad hwn bellach wedi mynd heibio. Gweler isod am ragor o fanylion am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad hwn.

Effeithiau Newid Hinsawdd ar Iechyd yng Nghymru: Archwilio’r sylfaen dystiolaeth a nodi blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol

Dydd Iau 6 Mehefin 2024
With Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod mai newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i iechyd a llesiant y bydd Cymru’n ei wynebu yn y ganrif hon. Bydd deall, paratoi ar gyfer effeithiau newid hinsawdd ar iechyd ac addasu iddynt yn faes allweddol i’r system iechyd a phartneriaid dros y degawd nesaf.

Mae nifer o adroddiadau wedi rhannu mewnwelediadau a gwybodaeth am effeithiau newid hinsawdd ar iechyd ond a oes gennym yr holl dystiolaeth sydd ei hangen arnom i wneud newid go iawn? Ble mae’r bylchau o ran ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth? Pa gwestiynau sydd angen i ni eu gofyn i sicrhau mai’r strategaethau a’r dulliau rydym yn eu defnyddio yw’r rhai mwyaf effeithiol?

Daeth y gweminar hon â thystiolaeth gyfredol ynghyd ar effeithiau newid hinsawdd ar iechyd ledled Cymru gan gynnwys adroddiadau diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Mae newid hinsawdd yn mynd i gael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant yng Nghymru – cafwyd cyfnodau o dywydd eithafol yn fwy aml yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf ac maent wedi effeithio ar seilwaith, gwasanaethau a llesiant corfforol a meddyliol y boblogaeth.  Mae angen tystiolaeth gadarn arnom i helpu’r sector iechyd i addasu i’r newidiadau hyn.

Canlyniadau Dysgu:

Bydd y rhai a fydd yn bresennol yn dod i ddeall y canlynol:

  • effeithiau iechyd a llesiant newid hinsawdd yng Nghymru a’r risgiau a’r cyfleoedd ar lefel Cymru a’r DU
  • y dystiolaeth bresennol ynghylch effeithiau newid hinsawdd ar iechyd
  • yr angen am ddadansoddiad o fylchau ar draws pob agwedd ar ein hymateb i newid hinsawdd er mwyn sicrhau newid parhaol ac effeithiol.

Cliciwch yma am yr agenda

 

Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais


Effeithiau Newid Hinsawdd ar Iechyd yng Nghymru: Archwilio'r sylfaen dystiolaeth a nodi blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol


Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol

Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod

    If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'


    Nodi problem

    Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
    Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

    Yn ôl i'r brig