Dyddiad + Amser
9 Mai 2024
2:00 YP - 3:00 YP
Ym mis Mawrth 2022, daeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent yr ardal gyntaf yng Nghymru i ymrwymo i ddod yn rhanbarth Marmot, gan ddangos ei fwriad strategol i gydweithio â’r Sefydliad Tegwch Iechyd i fynd i’r afael ag annhegwch rhwng cymunedau ar draws Gwent. Mae hyn yn cynnwys mabwysiadu egwyddorion Marmot fel y fframwaith ar gyfer gweithredu cyfunol.
Mae nifer o ddinasoedd yn Lloegr wedi ymrwymo i ddod yn rhanbarthau Marmot hefyd, gan gynnwys Cyngor Dinas Coventry yn 2013. Cynhaliwyd gwerthusiad annibynnol yn 2020 o’r chwe blynedd y bu Coventry yn ddinas Marmot. Roedd y gwerthusiad hwn yn archwilio sut mae egwyddorion Marmot wedi’u cymhwyso, wedi llywio datblygiadau’r dyfodol ac wedi darparu gwybodaeth a mewnwelediad i ardaloedd eraill.
Yn y weminar hon, byddwn yn clywed gan Stuart Bourne o Dîm Iechyd Cyhoeddus Aneurin Bevan Gwent ac Alicia Phillips o Gyngor Dinas Coventry. Byddant yn archwilio’r ymagwedd a gymerwyd tuag at ddod yn rhanbarthau Marmot ac yn amlygu dysgu ac argymhellion.
9 Mai 2024
2:00 YP - 3:00 YP
Ar-lein
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.