Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2023
With Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Bydd y gynhadledd hon yn cefnogi pobl sy’n gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) neu Gyrff Cyhoeddus sy’n cynllunio neu’n dechrau eu hasesiadau risg hinsawdd lleol. Roedd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniad i’r canllawiau ar asesiadau risg hinsawdd lleol sy’n cael eu cynhyrchu gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer BGCau. Clywodd y mynychwyr fewnwelediadau allweddol o’r Asesiad diweddar o’r Effaith ar Iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar berygl newid yn yr hinsawdd i bobl a chymunedau yng Nghymru. Roedd cyfle i rannu’r hyn a ddysgwyd a mewnwelediadau o waith addasu hinsawdd lleol presennol yng Nghymru.
Bydd newid yn yr hinsawdd yn cael effaith fawr ar iechyd, lles ac anghydraddoldebau yng Nghymru ac mae cynllunio ac addasu i newid yn yr hinsawdd yn fater i bawb. Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i gynllunio ac addasu i newid yn yr hinsawdd. Ymunwch â ni i fod yn rhan o’r sgwrs.
Deilliannau dysgu:
Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'