Ymgyrch newydd i helpu pobl i chwilio am gyfleoedd newydd
Bydd ymgyrch newydd, a lansiwyd heddiw drwy Gymru’n Gweithio, yn hyrwyddo’r cymorth wedi’i deilwra sydd ar gael i bobl sydd wedi colli eu swyddi neu sydd mewn perygl o golli eu swyddi, ac yn eu helpu i chwilio am gyfleoedd newydd.
Mae pandemig y coronafeirws wedi arwain at heriau a phwysau enfawr ar gyfer busnesau a gweithwyr, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd.
Ym mis Awst, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn swyddi a sgiliau gwerth £40 miliwn. Bydd y pecyn hwn yn helpu pawb y mae angen cymorth arnyn nhw i ddod o hyd i swydd, addysg neu hyfforddiant, neu i ddechrau eu busnes eu hunain yn yr adeg heriol hon. Bydd hyn yn allweddol wrth helpu Cymru i adfer o’r pandemig ac yn sicrhau nad oes neb yn cael ei esgeuluso.
Mae Cymru’n Gweithio’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, ac yn cael ei weithredu gan Yrfa Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cynnig amrediad o gymorth – o ddatblygu a diweddaru sgiliau a magu hyder, i helpu gyda phroblemau iechyd neu ofal plant. Gall y cymorth hwn gael ei deilwra i anghenion unigolion.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
Er bod y lefel y diweithdra yng Nghymru yn is na’r lefel gyffredinol ar gyfer y DU, mae’n amlwg bod y pandemig yn cael effaith.
Hyd yn hyn mae ein Cronfa Cadernid Economaidd wedi diogelu dros 100,000 o swyddi ac wedi rhoi cymorth ariannol gwerth bron £300 miliwn i 13,000 o fusnesau. Ond rydyn ni’n byw mewn cyfnod hynod anodd, ac mae rhai busnesau bellach yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd – ac mae’r penderfyniadau hynny’n cael effaith ar eu gweithwyr a’u bywoliaeth.
Dyma pam mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl, fel Jonathan, sydd wedi colli eu swyddi neu mewn perygl o golli eu swyddi.
Rydyn ni’n byw mewn cyfnod hynod anodd ac ansicr, ond byddwn ni’n parhau i gefnogi ein busnesau, ein gweithwyr a’n cymunedau.
I helpu i sicrhau bod pobl yn deall y cymorth sydd ar gael iddyn nhw os ydyn nhw’n cael eu diswyddo, bydd hysbysebion ar y teledu, y radio a’r cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau nesaf.
I ddysgu mwy, ffoniwch Gymru’n Gweithio ar 0800 028 4844 neu ewch i wefan Cymru Gweithio.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.