Mae adroddiad newydd yn trafod y cysylltiadau rhwng diweithdra oherwydd Coronafeirws a salwch hirsefydlog

Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos bod disgwyl i nifer y bobl â salwch hirsefydlog gynyddu yn unol â’r cynnydd mewn diweithdra yn dilyn Coronafeirws, oni bai bod ymyriadau i wneud iawn yn cael eu gweithredu.

Yn seiliedig ar gynnydd a amcangyfrifir yn y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru o 3.8% yn 2019 i tua 7% yn 2020, mae rhagamcanion gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu y gallai cyfran y boblogaeth sy’n dioddef o salwch hirsefydlog gynyddu tua 4% dros y tair blynedd nesaf o 46.4% cyn y pandemig i 50.3% yn 2022/23.

Gallai fod mwy o gynnydd yng nghanran yr oedolion sy’n byw gyda salwch hirsefydlog cyfyngol o 18.1% cyn y pandemig i 24.4% yn 2022/23.

Mae’r rhagolwg hefyd yn dangos canran uwch o oedolion â chyflyrau iechyd cronig. Er enghraifft, gallai anhwylderau endocrinaidd a metabolig gynyddu o 7.9% cyn y pandemig i 10.9% yn 2022/23; a phroblemau iechyd meddwl o 8.8% cyn y pandemig i 11.9% yn 2022/23.

Dywedodd Dr Mariana Dyakova, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus a Dirprwy Gyfarwyddwr ar gyfer Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r cysylltiadau rhwng diweithdra a salwch hirsefydlog wedi’u hen sefydlu.

“Rydym yn gobeithio y bydd canfyddiadau’r adroddiad hwn yn cael eu defnyddio i lywio’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer yr ymateb a’r adferiad i’r Coronafeirws, a lliniaru effeithiau niweidiol diweithdra ar iechyd unigolion a chymunedau.”

Dywedodd Rajendra Kadel, Economegydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac awdur arweiniol yr adroddiad: “Gall gostyngiad o 1% mewn cyflogaeth o ran pobl o oedran gweithio fod yn gysylltiedig â chynnydd o tua 2% mewn cyflyrau iechyd cronig. Gallai coronafeirws arwain at 900,000 yn fwy o bobl o oedran gweithio yn y DU yn datblygu cyflyrau iechyd cronig oherwydd llai o gyflogaeth.

“Yn ôl ein rhagolwg, gallai’r cynnydd yng nghanran yr oedolion â salwch hirsefydlog cyfyngol fod yn fwy, o gymharu ag oedolion ag unrhyw salwch hirsefydlog, gan awgrymu goblygiadau o ran iechyd a chynhyrchiant y boblogaeth, yn ogystal â phwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.’’

Mae’r Adroddiad Rhagamcanion Salwch Hirsefydlog yn trafod canlyniadau economaidd pandemig y Coronafeirws ar gyflyrau iechyd a’r defnydd o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae’n edrych ar dueddiadau mewn data nawr ac yn gwneud rhagamcanion ynghylch y data hynny hyd at 2022/23.

Mae salwch hirsefydlog yn gyflwr na ellir ei wella ar hyn o bryd ond y gellir ei reoli fel arfer gyda meddyginiaethau neu opsiynau triniaeth eraill. Mae hyn yn cynnwys materion cyhyrysgerbydol, y galon a chylchredol, anadlol, endocrinaidd a metabolig, ac iechyd meddwl.

Mae salwch hirsefydlog cyfyngol yn gyflwr sy’n cyfyngu ar weithgareddau person o ddydd i ddydd.

Llwythwch yr adroddiad llawn yma (Saesneg yn unig)

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig