Ymgynghoriad ar godi’r isafbris alcohol yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar barhau â’r isafbris uned ar gyfer alcohol yng Nghymru y tu hwnt i fis Mawrth 2026, a chodi’r pris uned o 50c i 65c.
Nod y polisi, a ddaeth i rym yng Nghymru ym mis Mawrth 2020, yw mynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol drwy leihau’r defnydd o alcohol ymysg pobl sy’n yfed mewn modd peryglus a niweidiol.
Mae’r isafbris uned wedi’i dargedu at ddiodydd cryfder uchel sy’n cael eu gwerthu am brisiau isel iawn ac sy’n cael eu hyfed mewn cyfeintiau mawr.
Mae data modelu yn awgrymu y gallai codi’r isafbris uned i 65c ostwng lefelau yfed alcohol niweidiol ymhellach, yn ogystal ag annog mwy o bobl i yfed ar lefelau cymedrol yn lle hynny.
Gallai hefyd leihau nifer y bobl sy’n yfed mewn modd peryglus fwy na 6,300 ac yfwyr niweidiol bron i 5,000, gan leihau derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau a briodolir i alcohol.
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 29 Medi 2025.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.