Ymchwil newydd yn cofnodi effaith COVID-19 ar natur agored i niwed ac ymateb cefnogol cyflym y Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Mae adroddiad newydd, a ariannwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn tynnu sylw at sut y daeth natur agored i niwed i’r amlwg yng Nghymru yn ystod pandemig y Coronafeirws, a sut y mae’r sector gwirfoddol a chymunedol wedi chwarae rhan allweddol wrth fynd i’r afael â’r her hon.

Cymerodd cynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol a chymunedol ledled Cymru ran yn yr ymchwil, gan rannu eu profiadau o nodi ac ymateb i’r rhai mwyaf anghenus yn ystod y pandemig. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod natur agored i niwed wedi dod i’r amlwg yn gyflym, wedi’i gwaethygu pan nad oedd unigolion yn gallu cael mynediad at gymorth gan adnoddau, gwasanaethau a seilwaith lleol penodol.

Mae anghenion allweddol a ddaeth i’r amlwg o ganlyniad uniongyrchol i’r Coronafeirws a’r cyfyngiadau a roddwyd ar waith yn cynnwys iechyd meddwl a waethygodd oherwydd gorbryder ac unigrwydd, ansicrwydd economaidd oherwydd straen ar gyllid cartrefi a cholli swyddi, allgáu digidol a cholli llawer o wasanaethau wyneb yn wyneb. Cafwyd bod yr achosion hyn o natur agored i niwed a ddaeth i’r amlwg yn clystyru gyda’i gilydd ac roeddent yn aml wedi’u patrymu ar hyd llinellau anghydraddoldeb cymdeithasol a oedd eisoes yn bodoli.

Mae’r ymchwil yn amlygu bod y sector gwirfoddol a chymunedol wedi bod yn ganolog wrth helpu i fynd i’r afael â theimlo’n ynysig ac unigrwydd, mynd i’r afael â chanlyniadau allgáu digidol a broceru mynediad at wasanaethau statudol a llenwi bylchau yn y ddarpariaeth yn ystod y cyfnod hwn.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig