Sut gallai cytundebau masnach newydd effeithio ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru?
Yn dilyn ei hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU yn trafod cytundebau masnach rydd rhyngwladol am y tro cyntaf ers bron 50 mlynedd. Mae hyn yn cyflwyno risg a chyfleoedd o ran iechyd y cyhoedd.
Mae gan gytundebau masnach y potensial i effeithio ar iechyd a llesiant yng Nghymru mewn sawl ffordd – o’r bwyd yr ydym yn ei fwyta i’n gwasanaethau gofal iechyd, y farchnad swyddi a’r gallu i fuddosddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Gallant hefyd effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i wella iechyd y cyhoedd trwy bolisi newydd.
Archwiliodd y weminar hon beth yw cytundebau masnach a pham y mae iddynt ganlyniadau posibl pwysig i iechyd a llesiant yng Nghymru.
Dyddiad
Tachwedd 2021
Cyfrannu at ein fideos
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.