Mynd i’r afael ag effeithiau iechyd cyhoeddus y newid yn yr hinsawdd – dysgwch sut gallwch chi a’ch tîm weithredu

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru flaenoriaeth strategol newydd: mynd i’r afael ag effeithiau iechyd cyhoeddus newid yn yr hinsawdd, i gydnabod mai’r argyfwng hinsawdd yw’r bygythiad iechyd mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth. Cyflwynodd y gweminar hwn adnodd ar-lein rhad ac am ddim sy’n helpu unigolion a thimau i weithredu i leihau eu heffaith amgylcheddol.

Esboniodd Claire Sain-Ley Berry o Cynnal Cymru sut i ddefnyddio’r gweithdy ar-lein Amgylchedd Iach am ddim sy’n seiliedig ar bedair thema – datgarboneiddio, bioamrywiaeth, dim gwastraff a newid yn yr hinsawdd. Mae’r gweithdy’n annog unigolion a thimau i ddatblygu cynllun gweithredu i leihau eu heffeithiau negyddol a chynyddu eu heffeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd, a chyfrannu at unrhyw systemau rheoli amgylcheddol presennol yn eu sefydliad.

Amlygodd y weminar hefyd gyfleoedd hyfforddi am ddim sydd ar gael ar newid yn yr hinsawdd i’ch helpu i ddeall beth mae newid yn yr hinsawdd yn ei olygu i’ch rôl, a sut i weithredu.

Dyddiad

Hydref 2023

Tanysgrifio i’n sianel YouTube

Tanysgrifio i’n sianel YouTube i gael eich hysbysu am y fideos diweddaraf gennym ni.



Cyfrannu at ein fideos

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig