Mynd i’r afael ag annhegwch iechyd yng Nghymru: Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru

Ymunwch ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop, sy’n lansio llwyfan arloesol newydd ar y we – Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru. Lluniwyd y llwyfan i fod yn adnodd i ddarganfod data a datrysiadau’n gysylltiedig â thegwch iechyd. Mae’n cynnwys dangosfwrdd data rhyngweithiol, fframweithiau tegwch iechyd a pholisi, ac astudiaethau achos rhyngwladol.

Bydd y llwyfan yn cefnogi ac yn cyflymu bywyd llewyrchus, iach, i bawb yng Nghymru ac yn cyfrannu at Lwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Ewropeaidd. Rhoddodd y gweminar drosolwg o weithgareddau arfaethedig ar gyfer y dyfodol a rhoddodd gyfle i chi ddarganfod sut y gallwch chi gymryd rhan mewn cyd-gynhyrchu datrysiadau, datblygu astudiaethau achos a chyfrannu at ddysgu am weithredu seiliedig ar ddatrysiadau i leihau annhegwch iechyd.

Deilliannau Dysgu:

  • Dealltwriaeth o Lwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru a gwaith ehangach menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru
  • Dealltwriaeth o’r ffordd y gallwch ddefnyddio’r llwyfan i lywio gweithredu seiliedig ar ddatrysiadau i leihau annhegwch iechyd.
  • Ymwybyddiaeth o waith y rhaglen yn y dyfodol a sut y gallwch gyfrannu

Dyddiad

Mehefin 2023

Tanysgrifio i’n sianel YouTube

Tanysgrifio i’n sianel YouTube i gael eich hysbysu am y fideos diweddaraf gennym ni.



Cyfrannu at ein fideos

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig