Gwydnwch Cymunedol yng Nghymru

Mae bod yn wydn yn disgrifio gallu unigolyn, cymuned, neu system i wrthsefyll straen a heriau ac i addasu a goroesi amgylchiadau niweidiol. (Davies et al, 2019)

Yn y gweminar hwn clywsom gan Nick Selwyn ac Euros Lake o Archwilio Cymru Yn erbyn cefndir tebygol o ostyngiadau pellach mewn gwariant cyhoeddus, mae awdurdodau lleol yn cael eu herio i helpu pobl sy’n cael trafferth gyda chostau uwch. Fe wnaethon nhw rannu sut mae gwydnwch cymunedol a hunanddibyniaeth gymunedol i arfogi pobl i fod yn llai dibynnol ar awdurdodau lleol a lleihau’r galw ar wasanaethau sydd yn aml dan bwysau.

Rhannodd Lucia Homolova a Charlotte Grey o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ganfyddiadau astudiaeth yn archwilio gweithredu dan arweiniad y gymuned yn ystod y pandemig yng Nghymru. Rhoesant drosolwg o ffactorau allweddol ffactorau allweddol a alluogodd weithredu dan arweiniad y gymuned, i ba raddau y cyfrannodd camau dan arweiniad y gymuned at ymateb y pandemig, a’i effaith ar liniaru neu leihau anghydraddoldebau iechyd.

Clywsom hefyd gan Fred Weston a Catrin Cribb o Gyngor Sir Fynwy, a rannodd sut roedd y tîm yn galluogi gweithredu cymunedol yn ystod y pandemig i ymateb i anghenion siopa ac anghenion am bresgripsiynau. Amlygwyd rôl y gweithiwr cymdeithasol ganddynt a gweithwyr cyswllt yn nhîm y gymuned a chyfiawnder cymdeithasol, ac eglurodd sut hyn wedi datblygu’n ymagwedd haenedig at adeiladu cyfalaf cymdeithasol a chymunedau dibynnol.

 

Dyddiad

Chwefror 2023

Tanysgrifio i’n sianel YouTube

Tanysgrifio i’n sianel YouTube i gael eich hysbysu am y fideos diweddaraf gennym ni.



Cyfrannu at ein fideos

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig