Cymryd camau mewn perthynas â’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Nid gwasgfa economaidd dros dro yn unig yw’r argyfwng costau byw presennol, yn hytrach mae’n fater iechyd y cyhoedd hirdymor sy’n effeithio ar y boblogaeth gyfan. Gallai’r effaith ar iechyd a llesiant yng Nghymru gael ei roi ar yr un raddfa â’r pandemig COVID-19, a oedd eisoes wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau presennol yng Nghymru. Mae’r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effeithiau eang a hirdymor ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Rhoddodd ein panel gwybodus o arbenigwyr drosolwg o:

  • Y data diweddaraf am gostau byw yng Nghymru
  • Effeithiau’r argyfwng costau byw ar iechyd yng Nghymru
  • Meysydd gweithredu allweddol ar gyfer y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru
  • Pa ddulliau sy’n gweithio orau yn y tymor byr, canolig a hir
  • Pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan
  • Sut y gall awdurdodau lleol ddefnyddio dull seiliedig ar wyddor ymddygiad

Dyddiad

Chwefror 2023

Tanysgrifio i’n sianel YouTube

Tanysgrifio i’n sianel YouTube i gael eich hysbysu am y fideos diweddaraf gennym ni.



Cyfrannu at ein fideos

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig