Blociau adeiladu ar gyfer tegwch rhywedd: Strategaethau ar gyfer dyfodol ffyniannus i fenywod yng Nghymru
Archwiliodd y gweminar hwn y cysylltiadau rhwng rhywedd a phenderfynyddion ehangach iechyd, a thrafododd rôl polisïau rhywedd-gynhwysol wrth ffurfio economïau a systemau iechyd teg. Roedd yn gyfle i edrych ar yr anghydraddoldebau rhywedd cyffredin sy’n effeithio ar iechyd y tu hwnt i wasanaethau iechyd.
Y gweminar:
- Codi ymwybyddiaeth o’r anghydraddoldebau iechyd a rhyw presennol yng Nghymru
- Arddangos mentrau llwyddiannus ac arferion gorau sy’n mynd i’r afael â thegwch iechyd a rhywedd
- Rhoi diweddariad ar bolisïau rhywedd-gynhwysol yng Nghymru ac amlygu eu pwysigrwydd
- Hwyluso trafodaethau ynglŷn â datrysiadau i leihau annhegwch iechyd yng Nghymru a thu hwnt ar yr un pryd ag annog rhanddeiliaid i gyfrannu syniadau a gwybodaeth.
Dyddiad
Mawrth 2024
Cyfrannu at ein fideos
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.