Adfyd ac Iechyd yn Hwyrach mewn Bywyd: Mewnwelediadau o Ymchwil yng Nghymru
Mae Cymru wedi ymrwymo i greu cymdeithas sy’n oed-gyfeillgar lle mae pobl o bob oed yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu byw a heneiddio’n dda. Mae atal anawsterau yn hwyrach mewn bywyd sy’n gallu niweidio iechyd a llesiant yn ganolog i’r ymrwymiad hwn ac yn hanfodol i wella manteision cymdeithasol poblogaeth hŷn sy’n cynyddu.
Tynnodd y weminar hon sylw at effeithiau adfyd yn hwyrach mewn bywyd ar iechyd a llesiant pobl hŷn, ac yn cyflwyno canfyddiadau allweddol o astudiaethau diweddar a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Arolwg poblogaeth cenedlaethol o oedolion 60 oed a hŷn yn archwilio amlygiad i brofiadau niweidiol gan gynnwys cam-drin, tlodi, unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a’u heffaith ar iechyd a llesiant
- Monitro tymheredd cartrefi a chyfweliadau â thrigolion yn archwilio effaith cartrefi oer ar iechyd a llesiant
- Crynhoi gwybodaeth ac ymarfer ar ynysigrwydd cymdeithasol, unigrwydd a chysylltiad cymdeithasol yng Nghymru
Dyddiad
Gorffennaf 2026
Cyfrannu at ein fideos
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.