Sgyrsiau agored gyda’ch plant y’wr ffordd orau o fynd i’r afael â phryderon am fepio

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllaw defnyddiol i helpu rhieni a gofalwyr sy’n poeni y gallai eu plentyn fod yn anweddu.

Mae’r canllaw yn cynnwys llawer o awgrymiadau ar gyfer sut i nodi arwyddion posibl fepio, a sut i fynd ati i gael sgwrs amdano.

Mae bron un o bob chwech o fyfyrwyr blwyddyn 11 yng Nghymru (15.9 y cant) yn defnyddio fêps yn rheolaidd yn ôl data a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.

Mae dros 45 y cant o fyfyrwyr ym mlwyddyn 11 yn dweud eu bod wedi rhoi cynnig ar fêp.

Mae’r canllaw yn cynghori rhieni y dylent geisio cael sgwrs agored gyda’u plentyn, a cheisio aros yn gadarnhaol.

Mae llawer o arwyddion fepio hefyd yn arwyddion o dwf arferol yn ystod y glasoed, fel hwyliau oriog, felly ni ddylai rhieni neidio i gasgliadau.

Mae’r rhan fwyaf o fêps yn cynnwys nicotin, sy’n sylwedd caethiwus. Gall defnydd rheolaidd arwain at ddibyniaeth ar nicotin, gan achosi ysfeydd a symptomau diddyfnu os byddwch yn ceisio rhoi’r gorau iddi.

Gall caethiwed i nicotin effeithio ar ganolbwyntio, dysgu ac astudio. Gall diddyfnu effeithio ar gwsg, achosi cur pen, ac effeithio ar iechyd meddwl a hwyliau.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig