Rhoi Tegwch Iechyd wrth wraidd adfer ar ôl Coronafeirws ar gyfer adeiladu dyfodol cynaliadwy i Gymru
Mae’r adroddiad hwn yn galw am fwy o bwyslais ar degwch iechyd – sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal i fod yn iach – mewn ymateb i’r Coronafeirws ac adfer ohono.
Mae’r adroddiad wedi’i baratoi gan Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n rhan o fenter fyd-eang – a arweinir ar y cyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – gan roi Cymru ar flaen y gad fel gwlad sy’n hyrwyddo, yn ymrwymedig i fynd i’r afael ag annhegwch ym maes iechyd.
Mae’r adroddiad agoriadol hwn yn canolbwyntio ar effeithiau ehangach y pandemig, nad ydynt yn amlwg ar unwaith, ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys:
- Tlodi, amddifadedd ac allgáu cymdeithasol
- Diweithdra, addysg a’r gagendor digidol
- Amodau tai a gwaith niweidiol, a thrais a throseddu
Mae hefyd yn tynnu sylw at yr effaith anghymesur y mae coronafeirws wedi’i chael, ac yn ei chael, ar grwpiau penodol fel plant a phobl ifanc, menywod, gweithwyr allweddol a lleiafrifoedd ethnig. Er enghraifft, mae pobl ifanc yn nodi eu bod yn poeni am golli eu swydd neu fethu dod o hyd i swydd; ac mae’r gagendor addysgol wedi parhau a chynyddu, yn enwedig i’r rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.