Rhoi lle canolog i leisiau cymunedol er mwyn hybu bywydau cenedlaethau’r dyfodol

Mae lleisiau rhai o gymunedau Cymru sydd wedi’u tangynrychioli fwyaf wedi’u rhoi wrth wraidd ffordd newydd o greu polisi argyfwng hinsawdd a natur er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Y rhai y mae argyfyngau hinsawdd a natur yn effeithio waethaf arnynt hefyd yw’r rhai nad ydynt yn cael eu clywed fel arfer pan ddaw at gynllunio polisi. Gall hyn olygu bod eu pryderon penodol yn cael eu hanwybyddu, gan greu dyfodol lle maent yn cael eu taro’n galetach fyth.

Mae’r cymunedau y mae argyfyngau hinsawdd a natur eisoes yn effeithio arnynt yng Nghymru yn cynnwys:

  • Rhentwyr cymdeithasol,
  • Menywod a ffoaduriaid duon a lleiafrifoedd ethnig
  • Grwpiau anabl, a
  • Chymunedau gwledig a ffermio.

Mewn prosiect ar y cyd, gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac ymchwilwyr Llythrennedd y Dyfodol (FLiNT) ddefnyddio dull mwy creadigol o fynd i’r afael â hyn ac maent yn gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli eraill i gynnwys cymunedau yn eu meddwl a’u cynllunio hirdymor.

Gan ddefnyddio gweithgareddau adrodd straeon creadigol a arweinir gan gymeriadau a gynhelir fel gweithdai a chystadlaethau adrodd straeon, gofynnwyd i gyfranogwyr rannu sut beth fydd dyfodol Cymru gyda newid hinsawdd yn edrych ac yn ei deimlo iddyn nhw.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig