Offeryn arloesol newydd yn cymhwyso Gwerth Cymdeithasol i wella canlyniadau iechyd cyhoeddus a gwerth am arian
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio rhaglen arloesol o waith, sy’n cymhwyso dull Gwerth Cymdeithasol i adeiladu ‘Iechyd Cyhoeddus sy’n seiliedig ar Werth’ er mwyn helpu i sicrhau bod rhaglenni iechyd cyhoeddus effeithiol ac economaidd yn cael eu darparu yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae’r Gronfa Ddata ac Efelychwr Gwerth Cymdeithasol (SVDS) ar gyfer Iechyd Cyhoeddus, wedi’i ddatblygu ar gyfer storio a thrin tystiolaeth o economeg iechyd. Ei nod yw cofnodi, mesur a modelu Gwerth Cymdeithasol ac Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) rhaglenni iechyd cyhoeddus, gan asesu eu canlyniadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach. Mae’r offeryn yn ceisio llywio a hwyluso gwneud penderfyniadau cost-effeithiol a chynaliadwy, blaenoriaethu buddsoddiadau a gwella ansawdd yn yr adferiad o’r Coronafeirws.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.