Mwy na £46m i gefnogi cynlluniau cymunedol a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn ysgolion ledled Cymru

Bydd y cyllid gwerth £40m yn cael ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn isadeiledd ymarferol i greu Ysgolion Bro. Mae Ysgolion Bro yn adeiladu partneriaethau cadarn gyda theuluoedd, yn ymateb i anghenion eu cymunedau, ac yn cydweithio’n effeithiol â gwasanaethau eraill i sicrhau bod pob plentyn yn ffynnu.

Bydd y cyllid a gyhoeddir yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ysgolion ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru i gyflwyno prosiectau cymunedol, gan gynnwys prosiectau bwyd a garddio, defnydd cymunedol o gyfleusterau chwaraeon a hybiau a cheginau cymunedol mewn adeiladau ysgolion. Hefyd, darperir rhaglenni allgymorth i rieni a’r gymuned fel dosbarthiadau maeth a sgiliau, a sesiynau darllen rhieni a phlant.

Bydd £6.5m yn ychwanegol yn ariannu rhagor o Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd a Swyddogion Lles Addysg, sy’n mynd i’r afael â materion absenoldeb ac anghydraddoldeb, gan ddarparu rhagor o gymorth i’r plant a’r teuluoedd sydd ei angen fwyaf.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig