Mewnwelediad rhyngwladol i faterion iechyd y cyhoedd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ei bedwerydd Calendr Cryno o Adroddiadau Rhyngwladol ar Sganio’r Gorwel.
Mae’r adroddiadau, a ddyluniwyd yn wreiddiol i helpu i lywio ymateb iechyd y cyhoedd esblygol am y Coronafeirws a chynlluniau adfer yng Nghymru, wedi’u hehangu i gwmpasu ystod eang o bynciau iechyd cyhoeddus pwysig a chyfoes. Mae tystiolaeth, polisïau, arferion da a data o wledydd eraill, yn ogystal â chanllawiau a diweddariadau gan asiantaethau rhyngwladol, yn cael eu dwyn ynghyd ym mhob un o’r adroddiadau.
Mae’r Calendr Cryno yn cyflwyno trosolwg byr a rhyngweithiol o’r pum Adroddiad Rhyngwladol ar Sganio’r Gorwel o 2023-2024, gyda themâu’n cynnwys:
- Cinio Ysgol Am Ddim i Bawb
- Iechyd Meddwl a Llesiant Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches.
- Pum Amod Hanfodol ar gyfer Tegwch Iechyd
- Gwreiddio Atal mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol
- Effaith Tlodi ar Fabanod, Plant a Phobl Ifanc
Mae pob un o’r crynodebau’n cynnwys trosolwg o’r pwnc, astudiaethau achos rhyngwladol, a dolenni i waith cysylltiedig yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.