Marwolaethau cysylltiedig ag alcohol yn uwch nag erioed yng Nghymru yn amlygu pryderon brys iechyd y cyhoedd
Mae’r ffigurau diweddaraf ar gamddefnyddio sylweddau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu tueddiadau pryderus mewn marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol a derbyniadau i’r ysbyty ledled y wlad.
Mae’r adroddiad, sy’n archwilio data o wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a chyfiawnder troseddol yn amlygu’r angen parhaus i gydnabod a mynd i’r afael ag effeithiau cynyddol yfed alcohol ar iechyd y cyhoedd.
Cynyddodd marwolaethau sy’n ymwneud ag alcohol – y rhai a achosir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan alcohol – i’r lefel uchaf erioed. Roedd 562 o farwolaethau wedi’u cofnodi yng Nghymru yn 2023, sef cynnydd o 15.6 y cant ers y flwyddyn flaenorol (486) a chynnydd sylweddol o’i gymharu â 10 mlynedd ynghynt (351 yn 2014). O’r marwolaethau a achoswyd gan alcohol yn 2023, roedd bron i ddwy ran o dair (64.8 y cant) yn ddynion.
Ar ben hynny, roedd 683 o farwolaethau cysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn 2023, sy’n cynrychioli cynnydd o 10.5 y cant ar y flwyddyn flaenorol (618) a chynnydd sylweddol o ddegawd yn ôl (462).
Mae derbyniadau i ysbytai oherwydd alcohol yn parhau i godi. Cafwyd dros 12,000 (12,236) o dderbyniadau yn cynnwys mwy nag 8,000 (8,147) o unigolion. Roedd oedolion hŷn 50+ oed yn cyfrif am ddwy ran o dair (67 y cant) o’r achosion hynny. Cofnodwyd y cyfraddau derbyn uchaf ym Merthyr Tudful (397 fesul 100,000 o bobl), sef mwy na dwbl y gyfradd ym Mhowys, a oedd â’r derbyniadau isaf.
Mae amddifadedd yn chwarae rhan arwyddocaol. Mae unigolion o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru 2.8 gwaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn oherwydd cyflyrau sy’n ymwneud ag alcohol na’r rhai o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Er bod derbyniadau i’r ysbyty oherwydd alcohol ymhlith y rhai dan 25 oed wedi gostwng 17.4 y cant o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol, cyrhaeddodd gwaharddiadau ysgol yn ymwneud â chyffuriau ac alcohol y lefel uchaf erioed, sef 939 o achosion ym mlwyddyn academaidd 2022/23.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.