Mae’r pandemig yn cynnig cyfleoedd i ddarparu dull cydweithredol o gynllunio ar gyfer iechyd a llesiant

Mae cydweithio rhwng gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr ym maes cynllunio gofodol gyda chydweithwyr ym maes iechyd yn hanfodol er mwyn sicrhau’r cyfleoedd iechyd a llesiant mwyaf posibl wrth adfer o bandemig y Coronafeirws, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn digwyddiad ‘Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol’ sy’n edrych ar sut i gydgysylltu cynllunio ac iechyd a sicrhau’r adferiad mwyaf posibl o COVID-19. Bydd y digwyddiad yn darparu rhai ffyrdd ymarferol o wneud hyn a datblygu argymhellion o’r adroddiad hwn.

Mae’n dangos y gall cyfranogiad cynnar a gweithio cydgysylltiedig ar draws sawl disgyblaeth helpu i fynd i’r afael â’r heriau rhyng-gysylltiedig sydd wedi dod i’r amlwg a dyfnhau ers y pandemig, ac y dylai’r dull hwn gael ei weithredu ar sail Cymru gyfan.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig