Mae harneisio cefnogaeth gan gymheiriaid yn allweddol i leihau digartrefedd ymhlith pobl sy’n gadael gofal

Mae adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi bod harneisio cefnogaeth y rhai sydd wedi profi’r system gofal a digartrefedd yn allweddol i wneud y newidiadau sydd eu hangen i atal pobl sy’n gadael gofal rhag cwympo oddi ar y ‘clogwyn gofal’ a bod yn ddigartref yn y dyfodol.

Mae unigolion â phrofiad o fod mewn gofal yn grŵp agored i niwed sy’n gorfod ymdrin â heriau sylweddol a lluosog yn eu bywydau. Mae hyn hefyd yn eu rhoi yn y sefyllfa orau i gynnig cefnogaeth a chyngor i wasanaethau er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y rhai sydd ar fin gadael gofal.

Mae pontio o ofal yn gyfnod allweddol ym mywyd person ifanc ac mae’n aml yn gysylltiedig â chanlyniadau gwael mewn meysydd fel iechyd, addysg, tai a chyflogaeth, gyda thua chwarter o bobl ifanc ddigartref wedi cael profiad o fod mewn gofal.

Mae tua 650 o blant yn gadael eu lleoliad gofal yng Nghymru bob blwyddyn, ffigur sydd wedi cynyddu tua 15 y cant ers 2011. Er bod y mwyafrif yn symud i lety addas, mae dros un o bob 20 yn symud i lety anaddas. Pan wnaed gwaith dilynol gyda nhw ar eu pen-blwydd yn bedair ar bymtheg oed, roedd bron dau o bob pump o’r rhai oedd â phrofiad o fod mewn gofal nad oeddent yn cymryd rhan mewn naill ai addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac nid oedd bron chwarter ohonynt (23 y cant) wedi cael unrhyw gymwysterau.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig