Mae gwella effeithlonrwydd ynni yng nghartrefi Cymru yn hanfodol i iechyd a llesiant

Mae adroddiad newydd, a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn galw am welliannau i effeithlonrwydd ynni stoc dai bresennol Cymru er mwyn helpu iechyd a llesiant bob dydd pobl, ac effaith yr argyfwng hinsawdd.

Aneffeithlonrwydd ynni yw un o’r tri ffactor y mae strategaeth effeithlonrwydd ynni Llywodraeth Cymru yn cyfeirio ato o ran penderfynu a fydd aelwyd mewn tlodi tanwydd, ochr yn ochr ag incwm aelwyd a phrisiau ynni. Mae tai aneffeithlon yn arwain at bobl yn defnyddio mwy o ynni i wresogi eu cartrefi, sydd yn ei dro’n arwain at fwy o gostau i’r defnyddiwr, mwy o allyriadau i’r amgylchedd ac, yn y rhan fwyaf o achosion, llosgi tanwydd ffosil.

Mae’r papur trafod yn amlygu sut, ar hyn o bryd, y mae stoc dai Cymru yn un o’r lleiaf effeithlon o ran ynni yn Ewrop.

Dyma’r negeseuon allweddol:

  • Cymru sydd â’r stoc dai hynaf yn y Deyrnas Unedig, gyda’r gyfran isaf o anheddau ag EPC wedi’i raddio ar ‘C’ neu uwch.
  • Yn 2018, roedd 155,000 o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd, sy’n cyfateb i 12 y cant o’r holl aelwydydd yng Nghymru, gydag aelwydydd yn y sector rhentu preifat yn fwy tebygol o fod mewn tlodi tanwydd.
  • O ystyried pandemig y Coronafeirws, a’i effaith ar gyllid personol a’r cynnydd yn nifer y bobl sydd gartref am gyfnodau hir, mae’n debygol y bydd y nifer hwn yn cynyddu.
  • Yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd, daw tua 15 y cant o allyriadau carbon Cymru o gartrefi.
  • Adeiladau preswyl sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o allyriadau ynni o adeiladau yng Nghymru, gydag 82 y cant o’r holl allyriadau ynni o adeiladau, a 7.5 y cant o gyfanswm allyriadau ynni Cymru, yn ôl ffigurau 2016.
  • Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o 31 y cant o ran cyfanswm yr allyriadau o adeiladau rhwng 1990 a 2016, ond mae llawer i’w wneud o hyd i wella effeithlonrwydd ynni preswyl ac felly lleihau allyriadau.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig